Dewch i gwrdd â Cassius Walker-Hunt, cyn weithiwr dur wedi troi'n arbenigwr coffi. Wedi cael ei ddiswyddo o TATA Steel, trodd Cassius ei sylw at ei angerdd mewn bywyd - coffi. O ganlyniad, cafodd Coffi Portablo ei eni.
Dyma beth oedd ganddo i'w ddweud am ei daith:
"Pan o'n i'n ddeunaw oed, dywedodd Dad 'Os wyt ti am wneud arian go iawn, mae'n rhaid i ti fynd i'r gwaith dur,' felly i ffwrdd â fi i'r ffwrneisi chwyth. Bues i'n gweithio yno tan y flwyddyn diwethaf pan, yn anffodus, fe ges i fy niswyddo o Tata Steel.
"Cyn gynted ag y clywais i fod y gwaith dur yn cau, roedd rhaid i mi feddwl yn gyflym. Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth fyddai'n llesol i'r gymuned leol achos roedd llawer o'r bobl roeddwn i'n gweithio gyda nhw yn y gwaith dur yn symud o'r ardal, ond doeddwn i ddim eisiau gwneud hynny. Roeddwn i eisiau aros ym Mhort Talbot a chreu rhywbeth fyddai'n rhoi yn ôl i'r gymuned.
"Fe ddechreuodd y cyfan yn Llundain mewn gwirionedd. Bues i'n byw yno am ychydig flynyddoedd, ac mae diwylliant coffi anhygoel yno nad oeddwn i erioed wedi cael profiad ohono o'r blaen. Bues i'n ymweld â'r rhan fwyaf o'r siopau coffi nodedig yn yr ardal, yn blasu eu rhostiau a mwynhau'r awyrgylch, a chefais fy nharo gan y ffaith nad oes gennym ni ddiwylliant coffi fel hyn yng Nghymru. Fe arhosodd y syniad yna gyda fi, a phan ddaeth fy nghyfnod yn y gwaith dur i ben, roeddwn i'n gwybod fod gen i gyfle i ail-greu'r hyn roeddwn i'n ei hoffi cymaint yn Llundain.
"Fe weithiais yn galed dros ben yn Coffi Portablo i'w wneud yr hyn ydyw heddiw. Dydw i ddim yn siarad am y coffi'n unig (er mod i'n falch iawn ohono) - aeth llawer o ystyriaeth i'r dodrefn a'r addurno hefyd. Roeddwn i eisiau creu feib penodol sy'n glyd ond hefyd sy'n talu teyrnged i'r ardal ac i'w wreiddiau diwydiannol.
"Y pethau dwi'n eu caru fwyaf am Bort Talbot yw'r celfyddyd, y diwylliant, y golygfeydd a'r cefndir diwydiannol cryf. Mae'r elfennau hyn i gyd yn cyfuno i greu rhywbeth cwbl unigryw i'r lle yma, a dydw i ddim yn credu bod modd ei ganfod yn unman arall. Dwi mor falch mod i wedi bod â'r argyhoeddiad i ddilyn fy ngreddf a mynd amdani gyda Coffi Portablo - dwi wedi cyfarfod pobl bendigedig a dwi'n teimlo'n fwy cysylltiedig fyth gyda'r gymuned."