Dewch i gwrdd â Sally Roberts-Jones, awdur lleol sydd wedi bod yn byw yng Nghastell-nedd Port Talbot ers 57 mlynedd. Yn ei geiriau ei hun, dysgwch beth wnaeth ei denu i'r ardal a pham ei bod wedi plannu ei gwreiddiau yma:
"Dwi'n un o Gymry Llundain yn wreiddiol, ond wedi ystyried fy hun yn Gymraes erioed.
"Ym mis Awst 1966 fe ges i wahoddiad i Bort Talbot i gymryd rhan mewn digwyddiad barddoniaeth yn y Walnut Tree ac roeddwn i wrth fy modd gyda'r ardal. Pan es i nôl i Lundain, fe ddechreuais i chwilio am swyddi, a'r swydd gyntaf a welais i wedi'i hysbysebu oedd un yng Ngogledd Cymru. Fe weithiais i'n galed iawn i gael fy CV a phopeth i'w hanfon atyn nhw mewn da bryd, ac yna es i fyny i Gaergybi i weld fy nain.
"Pan ddes i nôl fe welais i swydd arall ar gael ym Mhort Talbot, a meddyliais i fi'n hun y byddwn i'n rhoi cynnig rhag ofn. Fe anfonais i'r cais yn gyflym, fe ges i ateb ganddyn nhw, cael cyfweliad, a derbyn y swydd - popeth cyn i mi glywed yn ôl gan y swydd yng Ngogledd Cymru! Mae'n ymddangos mai yma yr oeddwn i fod, a dydw i erioed wedi gadael.
"O mhrofiad i, mae gwahaniaeth mawr rhwng Cymru a Lloegr. Yn Llundain, roeddwn i'n tyfu i fyny yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a wnes i erioed deimlo fod gen i gysylltiad â neb yno mewn gwirionedd. Ond pan ddes i Gymru, fe ddes i at gymuned.
"Mae'r bobl rydw i wedi eu hadnabod a'r cysylltiadau rydw i wedi eu gwneud ers i mi symud yma wedi bod yn gwbl eithriadol, a fyddwn i erioed wedi adnabod neb ar yr un math o lefel pe byddwn i wedi aros yn Lloegr.
"Taswn i'n gallu disgrifio Port Talbot fel person, byddai'n rhywun sy'n wybodus, neu'n awyddus i wybod mwy. Byddai'n uchelgeisiol, yn groesawgar ac yn gyfeillgar.
"Does neb erioed wedi gwneud i mi deimlo fel rhywun o'r tu allan, a fedra i ddim dychmygu bod yn unman arall. Dwi mor ddiolchgar mod i wedi penderfynu gwneud cais am y swydd honno ym Mhort Talbot yr holl flynyddoedd yna'n ôl."