Gwirfoddolwyr Llwybr Afan

Dewch i gwrdd â'r bobl sy'n gweithio'n ddiflino i gadw llwybrau beicio mynydd Coedwig Afan yn glir ac yn ddiogel: Gwirfoddolwyr Llwybr Afan. Yn eu geiriau eu hunain, dyma pam mae Scott ac Ally yn angerddol dros gynnal a chadw'r llwybrau hyn. I ddechrau, dyma Scott:

"Dwi'n byw yn lleol, ac mae Coedwig Afan a'i lwybrau beicio mynydd a'r canolfannau yn rhan enfawr o'm mywyd i. Dwi wrth fy modd yn bod yn wirfoddolwr ac mae'n rhoi teimlad enfawr o 'roi yn ôl' gan mod i'n rhywun sy'n defnyddio'r llwybrau hyn yn aml hefyd. Dwi wedi reidio ar y llwybrau fwy o weithiau nag y galla i gyfrif, felly mae cael y cyfle i helpu i'w cadw mewn cyflwr da i ymwelwyr eu defnyddio pan fyddan nhw'n dod i'r ardal yn bwysig iawn!"

Nesaf fe fuon ni'n siarad ag Ally Campbell o Campbell Coaching fu'n sôn am y sesiwn dyllu a beth yn union mae hynny'n ei gynnwys:

"Gan ein bod yng Nghymru, mae'n anorfod ein bod yn gweld llawer o ddŵr sy'n dechrau creu pyllau ar y llwybrau. Beth rydyn ni'n ei wneud fel rhan o reoli llwybrau yw proses o'r enw dad-ddyfrhau, lle byddwn ni'n creu'n ofalus llwybrau bach fel ffosydd ar ochr y llwybrau i helpu i ddraenio'r dŵr gormodol yma. Mae hyn yn hanfodol achos os yw dŵr gormodol yn cael ei adael ar y llwybrau am gyfnod hir o amser, mae'n gallu sgwrio'r arwyneb i ffwrdd ac achosi niwed parhaol i'r llwybrau yma rydyn ni mor hoff ohonyn nhw.

"Rydyn ni hefyd yn gofal am reoli llystyfiant, sy'n rhan hanfodol o'r broses cynnal a chadw. Does dim byd mwy boddhaol na thorri cangen sydd wedi bod yn eich chwipio chi wrth i chi reidio heibio!

"Mae Coedwig Afan yn llawn o lwybrau beicio mynydd anhygoel, felly pa fath bynnag o reid rydych chi am ei gael, bydd y dewis yn wych. Ar ben y beicio mynydd, mae traeth syrffio anhygoel tua pum milltir o fan hyn, sy'n gwneud Afan yn un o'r unig ganolfannau llwybrau beicio yn y DU sydd reit wrth ymyl traeth syrffio.

"Dwi wedi bod yn byw dros bob man ac wedi teithio llawer hefyd, ond Afan sydd wedi fy nghadw am y cyfnod hiraf oll."