Pecyn Cymorth Busnes Balchder mewn Lle

Croeso i'r ymgyrch Balchder mewn Lle! Os ydych chi'n fusnes ac yn falch o fod yng Nghastell-nedd Port Talbot, yna rydych chi yn y lle iawn.

Cyngor Castell-nedd Port Talbot sydd tu cefn i'r ymgyrch hon, sy'n ganlyniad o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU)un i bileri canolog yr Agenda Ffyniant Bro. Un o brif amcanion CFfGDU yw adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae hynny wedi mynd ar goll. Dyma lle mae Balchder mewn Lle yn cynnig ei hun!

Pwrpas yr ymgyrch Balchder mewn Lle yw annog trigolion Castell-nedd Port Talbot i rannu pa mor falch ydyn nhw o'r ardal ac i rannu straeon diddorol pobl sy'n byw ac yn gweithio yn CNPT.

Rydym yn gwybod faint o drysorau cudd sydd yng Nghastell-nedd Port Talbot, a pha mor gryf yw'r clymau cymunedol a chredwn ei bod hi'n bryd i ni roi sylw i'r holl bethau cadarnhaol sydd i'w cael yn yr ardal.

Gobeithiwn y byddwch yn teimlo'r un fath â ni, ac os ydych chi, rydyn ni wedi creu amryw o adnoddau i'w lawrlwytho y gallwch eu defnyddio i roi'r gair ar led. Gadewch i ni roi'r cariad y mae'n ei haeddu i Gastell-nedd Port Talbot!

Pecyn Cymorth Busnes Balchder mewn Lle

Templed Blog

Rydyn ni wedi creu templed blog i chi sy'n canolbwyntio ar y rhesymau pam rydych chi'n falch i redeg busnes yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Postiadau cyfryngau cymdeithasol

Gweler isod rai postiadau cyfryngau cymdeithasol y gallwch eu rhannu ar eich tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Graffeg Cyfryngau Cymdeithasol

Gweler isod y sianeli cyfryngau cymdeithaso ar gyfer ymgyrch Balchder mewn Lle.