Rhoi sylw i Baroc, Castell-nedd

Mae gan Gastell-nedd siop newydd sbon yng nghanol y dref, ac mae'n llawn dop o anrhegion Nadolig! Mae Baroc, siop ffasiwn a ffordd o fyw, wedi agor ei ddrysau yn Uned 4, Ffordd Fairfield, Castell-nedd (drws nesaf i Neath Deli) ac mae eisoes yn denu sylw gyda'i groeso cynnes, ei nwyddau steilus a'i arddangosiadau sydd wedi'u curadu'n hardd.

Mae'r siop newydd yma yn y dref yn cynnig ychydig o bopeth, a dyna'r union beth sy'n ei wneud mor arbennig. P'un a ydych chi'n chwilio am ddillad newydd, darn unigryw o emwaith neu'r ategolyn perffaith i loywi eich cartref, mae'n debygol iawn y byddwch yn dod o hyd iddo yma. Mae'r tîm wedi meddwl yn galed am greu siop sy'n denu, sy'n fforddiadwy ac sy'n llawn personoliaeth. Mae'r math o le y byddwch chi'n picio i mewn iddo am 'olwg cyflym' ac yn dod o hyd i rywbeth nad oeddech chi hyd yn oed wedi sylweddoli eich bod ei angen.

Mewn pryd ar gyfer tymor y Nadolig, mae Baroc wedi dadorchuddio ei ddewis newydd o anrhegion Nadolig. Gallwch ddisgwyl anrhegion wedi'u pecynnu'n hardd, ategolion tymhorol a phethau bach hyfryd i lenwi'r hosan fydd yn cymryd y straen allan o siopa Nadolig. Os ydych chi'n chwilio am anrhegion meddylgar sy'n fforddiadwy (ac eitemau unigryw na fyddwch yn eu canfod yn unman arall), dyma'r lle i chi alw i mewn.

Rydyn ni mor gyffrous am ddyfodiad Baroc. Mae'n hwb gwych i ganol tref Castell-nedd, yn ychwanegu at amrywiaeth cynyddol o fusnesau annibynnol ac unigryw sy'n anadlu bywyd newydd i Gastell-nedd.

Felly, os ydych chi yn yr ardal, p'un a ydych chi'n mwynhau coffi yn Monty's neu'n mynd am adref ar ôl sesiwn yn y gampfa yn y Ganolfan Hamdden newydd, gwnewch yn siŵr eich bod yn galw yn Baroc i weld beth sydd ar gael. Mwynhewch yr arddangosfeydd Nadoligaidd a sbwyliwch eich hun neu rywun rydych chi'n ei garu gyda rhywbeth arbennig. Mae hi bob amser yn gyffrous i groesawu busnes bach newydd i Gastell-nedd, a chredwn y byddwch yn syrthio mewn cariad â Baroc.