Croeso i Dream Street

Mae canolfan chwarae meddal newydd sbon wedi agor ar Stryd y Dŵr yng Nghastell-nedd ac mae'n dod yn ffefryn mawr gyda theuluoedd lleol yn barod.

Dream Street yw'r lle perffaith i fwynhau coffi da tra bod eich plantos yn archwilio, dychmygu a chreu.

Mae Dream Street yn ganolfan chwarae dan do sydd wedi'i ddylunio'n feddylgar i blant rhwng 0 ac 8 mlwydd oed. Mae'n fwy na gofod chwarae yn unig, mae'n cynnig amgylchedd cymunedol croesawgar sy'n meithrin nid yn unig ddatblygiad eich plentyn, ond hefyd eich llesiant eich hun fel rhiant neu ofalydd.

Mae'r gofod arloesol yn annog cyfoethogi drwy chwarae pen-agored, gan ddarparu ar gyfer plant o wahanol oedrannau a chamau. Mae'n ddelfrydol ar gyfer dyddiau gwlyb, gwyliau ysgol neu am drît arbennig. Mae sesiynau chwarae arferol yn para un awr a 45 munud, ac mae'r ganolfan hefyd yn cynnal llu o sesiynau arbennig, yn cynnwys yoga, gweithdai celf a chrefft, partïon cymeriadau gydag ymweliadau gan rai fel Mickey Mouse a Minnie Mouse, yn ogystal â dathliadau llogi preifat.

Ond mae Dream Street yn llawer mwy na rhywle i gadw plant yn hapus. Mae wedi cael ei greu fel canolfan gymunedol go iawn i rieni a phlant fel ei gilydd. Ydych chi awydd dosbarth yoga heb y straen o drefnu gofal plant? Ydych chi am greu atgofion ystyrlon drwy weithdai creadigol? Neu efallai y byddech chi'n hoffi mwynhau cerddoriaeth, digwyddiadau cymdeithasol a phartis mewn gofod sy'n croesawu teuluoedd? Mae Dream Street yn darparu amgylchedd holistig lle gall teuluoedd dreulio amser o ansawdd gyda'i gilydd tra'n dysgu ac yn ymlacio ar yr un pryd.

Cafodd Dream Street ei sefydlu gan Lianne, mam weithgar i ddau o blant a welodd yr angen am ofod cefnogol lle nad yw rhieni'n teimlo ar eu pennau eu hunain. Gan ddefnyddio ei phrofiadau ei hun o rianta, fe greodd le sy'n ysgafnhau pwysau bob dydd sy'n wynebu teuluoedd, ac wrth wneud hynny mae hi wedi adeiladu cymuned gref, groesawgar o rieni a gofalwyr sydd â'r un anian.

Mae'r tîm yn Dream Street yn rhannu gwerthoedd a gweledigaeth Lianne. Mae pob aelod staff wedi derbyn hyfforddiant trylwyr; maen nhw'n deall pwysigrwydd llesiant teuluoedd gan sicrhau fod pob ymweliad yn teimlo'n ddiogel, wedi'i gefnogi ac yn gynhwysol.

Mae'r busnes yn hwb gwirioneddol i gymuned Castell-nedd, yn cynnig diwrnod allan hygyrch a fforddiadwy i deuluoedd. Mae Dream Street o fewn pellter cerdded hawdd o'r orsaf drenau, mae lle i barcio gerllaw ac mae'n agos iawn at ganol bywiog y dref: lleoliad cwbl gyfleus.

Felly os ydych chi'n barod am goffi haeddiannol tra bod eich plantos yn defnyddio eu dychymyg i'r eithaf, Dream Street yw'r lle perffaith i aros ac adennill nerth. Beth am wneud diwrnod ohoni? Cyfunwch eich ymweliad gyda chyfle i gerdded o gwmpas Castell-nedd i ddarganfod ei siopau annibynnol, ei awyrgylch cyfeillgar a'i gyfaredd lleol - y cyfan yn gwneud y dref yn gyrchfan gwych i deuluoedd.

Mae Dream Street ar agor rhwng 9.15am a 3pm o Ddydd Llun i Ddydd Mercher a Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, a rhwng 9.15am ac 1pm ar Ddydd Iau. Anfonwch e-bost atyn nhw ar info@playondreamstreet.co.uk i gael gwybod mwy.