Beth sy'n Digwydd yng Nghanol ein Trefi dros yr Haf

Mae'r haf wedi cyrraedd Castell-nedd Port Talbot o'r diwedd, ac rydyn ni'n fwy na pharod i ddod i adnabod canol ein trefi a chefnogi busnesau lleol!

Yr haf yma, beth am herio eich hun i ymweld â gwahanol ran o'r cwm, gwneud ymdrech bendant i siopa mewn siopau annibynnol, neu roi cynnig ar weithgaredd newydd?

Mae cymaint i'w weld ac i'w wneud yng Nghastell-nedd Port Talbot ac rydyn ni'n teimlo mor ffodus i alw'r rhan o'r byd yn gartref. Beth am ganfod beth y gallwch chi ei wneud yng nghanol ein trefi dros yr haf:

Castell-nedd:

Mae Sioe boblogaidd Stêm a Fintej Castell-nedd yn ôl eleni ar 14fed & 15fed Mehefin yn Fferm Llwynfelish, Creunant.

Gallwch ddisgwyl digwyddiad yn llawn o ddoniau lleol ac adloniant, yn cynnwys crefftau, injans stêm, ceir, tractorau, injans tân, stondinau masnach, sêl cist car, cystadleuaeth tynnu rhaff i blant a rhagor.

Dysgwch ragor fan hyna phrynwch eich tocynnau ar y dydd. Y pris i oedolion yw £7, £6 i bensiynwyr ac mae mynediad am ddim i blant.

Os ydych chi'n caru ffilmiau, yna byddwch wrth eich bodd gyda'r digwyddiad nesaf! Bydd Wonder Cinema yn dod i Glwb Rygbi Castell-nedd rhwng 18fed-21ain Awst, lle gallwch gwtsio a mwynhau ffilm yn yr awyr agored wrth i'r haul fachlud.

Mwynhewch noson o adloniant cyn i'r ffilm gychwyn, gyda bwydydd a diodydd blasus ar gael.

Port Talbot:

Ydy hi wir yn haf os nad ydych chi wedi treulio o leiaf un diwrnod yn ymlacio ar y traeth? Rydyn ni mor ffodus i gael Traeth Aberafan ar stepen drws Port Talbot, gyda thraeth eang i chi wneud eich cartref am y diwrnod.

Gallwch lenwi eich haf gyda llu o weithgareddau ar Draeth Aberafan, yn cynnwys gwersi syrffio gyda Surf School Wales a yoga traeth gyda'r Mental Health YogiOs yw bod yn egnïol yn flaenoriaeth i chi, beth am fynd at South Coast Tandem Hire a chrwydro Castell-nedd Port Talbot ar ddwy olwyn.

Rydyn ni'n gwybod fod y tywydd yn gallu bod yn anwadal yng Nghymru, a dyna pam rydyn ni'n cynnwys gweithgaredd tywydd gwlyb er mwyn bod yn ddiogel!

Os ydych chi'n un sy'n mwynhau hanes, yna byddwch wrth eich bodd yn yr arddangosfa 'Bywyd Richard Burton' yng Nghanolfan Siopa Aberafan sy'n cael ei gynnal rhwng 7fed a 14fed Gorffennaf. Dysgwch am sut y bu i'r Richie Jenkins ifanc ganfod ei gariad am actio a sut y cafodd ei dalent byd-enwog i siapio gan y tirweddau a'r cymunedau yma yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dim ond rhai o'r digwyddiadau cyffrous yw'r rhain sy'n digwydd yng nghanol ein trefi dros yr haf, ond cofiwch gadw llygad ar dudalennau ein cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â thudalennau eich tref leol, am ragor o wybodaeth.